Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft

Draft Autism (Wales) Bill

Llythyr Ymgynghori DAB29

Consultation Letter DAB29

Ymateb gan | Evidence from Barnardo’s Cymru

Cyfeiriwch at y cwestiynau yn y Llythyr Ymgynghori.

Mae Barnardo’s Cymru yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru ers dros 100 mlynedd ac mae’n un o’r elusennau plant mwyaf yn y wlad. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal dros 90 o wahanol wasanaethau ledled Cymru, gan weithio mewn partneriaeth gydag 16 o’r 22 awdurdod lleol.

Mae pob un o’n gwasanaethau yn wahanol, ond mae pob un yn seiliedig ar y gred fod pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu’r cychwyn gorau mewn bywyd, dim ots pwy ydynt, beth maent wedi’i wneud na beth maent wedi byw trwyddo. Defnyddiwn y wybodaeth a gawn drwy ein gwaith uniongyrchol gyda phlant i ymgyrchu dros well polisi gofal plant a chymdeithasol ac i sefyll dros hawliau pob plentyn. Gyda’r help iawn, cefnogaeth ymroddedig ac ychydig o ffydd, credwn y gall hyd yn oed y plant mwyaf bregus droi eu bywydau er gwell. Ein nod yw sicrhau gwell canlyniadau llesiant i ragor o blant drwy ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn sicrhau teuluoedd cryfach, plentyndod mwy diogel a dyfodol cadarnhaol.

Yr ymgynghoriad hwn

Mae Barnardo’s Cymru’n cefnogi rhai plant a phobl ifanc awtistig; rydym hefyd yn cefnogi rhai rhieni a all fod yn awtistig drwy ein gwasanaethau cefnogi teuluoedd. Nid ydym yn darparu unrhyw wasanaethau cefnogi sy’n benodol i awtistiaeth. Cyflwynir yr ymateb hwn, felly, ar y ddealltwriaeth fod cyrff eraill fel Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru yn canolbwyntio’n llwyr ar y problemau a wynebir gan unigolion a theuluoedd yn sgil awtistiaeth.

Mae Barnardo’s Cymru’n croesawu ac yn cefnogi datblygiad y Bil Awtistiaeth (Cymru) a gynigir, ac yn cydnabod ymdrechion Paul Davies AC a staff cymorth y Cynulliad hyd yma.

Yr ymateb yn gryno

Nid yw Barnardo’s Cymru o blaid datblygu deddfwriaeth heb fod angen clir, a chredwn fod achos cryf wedi’i wneud dros y ddeddfwriaeth hon. Serch hynny, ni fyddai pasio’r bil yn sicrhau’r cyfan o’r newid sydd ei angen, ac felly hoffem ddadlau dros ystyried darpariaethau ychwanegol trwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Mae Barnardo’s Cymru yn cydnabod y camau cadarnhaol a gymerwyd yn y deng mlynedd ers y Strategaeth Awtistiaeth gyntaf ac yn ddiweddarach y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig. Mae’n ymddangos i Barnardo’s Cymru y gallasid bod wedi cyflawni mwy petasai’r datblygiadau gwasanaeth a strategol wedi’u gwneud o fewn fframwaith statudol eglurach. I’r perwyl hwnnw, awgryma Barnardo’s Cymru y gellid cyflawni nod y Bil yn well pe ceid disgwyliad clir am newid cadarnhaol ar gyfer pobl awtistig ar wyneb y Bil.

Hawliau

Mae’n braf nodi bod ail linell tudalen gyntaf y bil yn cyfeirio at ddiogelu a hyrwyddo hawliau; ond nid yw cynnwys ac arddull y bil yn adlewyrchu hyn. Yn arbennig, byddem yn croesawu cyfeiriad penodol at y ddyletswydd i roi sylw dyledus i offerynnau rhyngwladol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, ac Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn yn arbennig.

Diffinio awtistiaeth

Mae Barnardo’s Cymru’n croesawu bod diffiniad o awtistiaeth wedi’i gynnwys ar wyneb y Bil. Cydnabyddwn hefyd mai buddiol yw defnyddio diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd. Mae angen parhaus i adolygu diffiniadau a sicrhau eu bod yn berthnasol, ac efallai fod angen nodi hynny’n  benodol ar wyneb y Bil.

Mae Barnardo’s Cymru’n cydnabod hefyd yr angen i ystyried anhwylderau niwroddatblygiadol eraill, ac yn croesawu’r ffaith eu bod wedi’u cynnwys yn y bil.

Cyrff perthnasol

Wrth gydnabod bod awtistiaeth yn rhywbeth a brofir gydol oes, ac felly y bydd anghenion gofal penodol yn newid gydag oed, oni ddylai’r rhestr rywsut gynnwys gwasanaethau gofal cymdeithasol a phreswyl rheoleiddiedig, fel gofal henoed a nyrsio a llety diogel?

Rydym yn ymwybodol o’r niferoedd sylweddol o bobl ag awtistiaeth sydd mewn sefydliadau diogel, boed hynny am resymau lles neu gyfiawnder, a boed yr awtistiaeth wedi ei ddiagnosio ai peidio. Dyma sefyllfa a fyddai’n elwa o ddiagnosis ac ymyriad cynnar priodol.

Dyletswydd i roi sylw i’r strategaeth a’r canllawiau

Mae Barnardo’s Cymru yn sylweddoli mor anodd yw llunio deddfwriaeth sy’n eglur o ran disgwyliadau ond heb fod yn rhagnodol o ran y modd y cyflenwir gwasanaethau i ateb y disgwyliadau hynny. Gellid cynnwys a disgrifio’r disgwyliadau neu’r amcanion hyn yn y teitl hir.

Mae adran dau, wrth awgrymu cynnwys y strategaeth, yn rhoi disgrifiad buddiol o’r amcanion ar gyfer cyflawni’r nod. Byddai’r ddyletswydd a osodir ar gyrff perthnasol i roi sylw i’r strategaeth ac, fe ddadleuem ni, i offerynnau hawliau dynol, yn gryfach o bwyso ar y grym cyfarwyddo sydd yn nwylo Gweinidogion Cymru.

Amserlen

Tra bydd Barnardo’s Cymru bob amser yn dadlau dros leihau cyfnodau aros am asesiad a gwasanaeth, cydnabyddwn fod gwerth yn y natur bragmataidd o bennu amserlen y gellir cadw ati, a chytunwn â’r awgrym y gellid defnyddio canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.

Serch hynny, hoffai Barnardo’s Cymru awgrymu y dylai unrhyw gyfnod aros am asesiad o anghenion gofal a chymorth gychwyn ar yr un pryd â’r ddiagnosis er mwyn lleihau unrhyw oedi cyn ymyriad priodol.

Tîm aml-ddisgyblaeth 

Mae’n anoddach i Barnardo’s Cymru wneud unrhyw sylwadau sylweddol ar hyn gan mai ychydig iawn o brofiad sydd gennym o weithio ynghylch prosesau diagnostig. Ond yr ydym yn teimlo y byddai’r rhestr ar ei hennill o sicrhau bod yr unigolyn yn cael rhan yn y broses, lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Croesawn hefyd y gofyniad am eiriolaeth annibynnol i’r unigolyn ac eiriolaeth annibynnol ar wahân ar gyfer teulu. Hoffai Barnardo’s Cymru awgrymu ymhellach y dylid, oherwydd natur Anhwylder Sbectrwm Awtistig, ystyried cynnwys unrhyw weithiwr sydd eisoes yn cefnogi’r unigolyn ac yn gyfarwydd iddynt. Byddai eu cynnwys fel hyn yn fwy cydnaws â gofalu am hawliau ac yn gyd-gynhyrchiol o ran natur.

Mynediad i bawb

Eto, byddai Barnardo’s Cymru o blaid rhoi sylw dyledus i offerynnau hawliau dynol ac amcanion cydraddoldeb o fewn y Ddeddf Gydraddoldeb. Mae erthygl 9 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn amlinellu cyfrifoldebau cyrff y wladwriaeth mewn perthynas â hwylustod mynediad, ac mae’r amcanion cydraddoldeb yn cynnwys:

“5. Symud rhwystrau a chefnogi pobl anabl fel y gallant fyw’n annibynnol ac arfer dewis a rheolaeth yn eu bywydau beunyddiol.”

Mae Barnardo’s Cymru’n ymwybodol o brofiadau rhai pobl awtistig sy’n cael anawsterau cael mynediad at wasanaethau cefnogi priodol oherwydd nad oes ganddynt anabledd gweladwy ac am fod eu cyniferydd deallusrwydd (IQ) yn ganolig i uchel. Dylem ddisgwyl y caiff hyn ei ddileu yng nghyswllt gwasanaethau gofal cymdeithasol neu statudol, ond gall brofi’n anoddach delio â’r mater yn narpariaeth gwasanaethau masnachol ehangach, sy’n awgrymu bod angen ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth cynhwysfawr i herio dealltwriaeth.

Mae Barnardo’s Cymru’n cefnogi’r alwad am ymgyrch ymwybyddiaeth a dealltwriaeth i’w gynnal dros dair blynedd gydag adolygiad. Mae hyn hefyd i’w weld fel ymrwymiad yn erthygl 8 y Confensiwn.

Casgliad

Yn ddi-os cafwyd gwelliannau yn narpariaeth gwasanaethau ar gyfer pobl awtistig ac yn eu profiad nhw o’u derbyn. Mae’n parhau’n wir fod angen gwelliannau pellach i ddal i anelu tuag at gydraddoldeb cyfleon a phrofiad i bobl awtistig. Mae’n amlwg hefyd ein bod yn wynebu hinsawdd ariannol heriol dros ben wrth inni geisio gwella ansawdd a maint y gefnogaeth a roddir yn wyneb cynnydd yn yr angen a nodir.

Yn yr amgylchiadau hyn mae Barnardo’s Cymru’n croesawu datblygu’r bil hwn ac yn ei weld fel cyfle i sicrhau eglurder yn y nod genedlaethol yn ogystal â’r fframwaith gyflenwi ac atebolrwydd dros wasanaethau i bobl awtistig.

Byddai Barnardo’s Cymru’n croesawu cynnwys dyletswyddau penodol ynglŷn â hawliau, a chamau gweithredu cysylltiedig megis darparu eiriolaeth a gofyniad i alluogi cyfranogiad yr unigolyn lle bo modd.

I gloi, mae Barnardo’s Cymru’n croesawu datblygiad y Bil Awtistiaeth ac yn gweld hyn fel cam angenrheidiol ymlaen yn narpariaeth gwasanaethau gwell i bobl ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistig.